Cyrraedd Cape Bauld, Newfoundland,

CATRYN
David Rice
Sun 14 Sep 2014 20:32
Dyma ni newydd gyrraedd gogledd Newfoundland. Pnawn ddoe daru ni hwylio
allan o Cartwright, Labrador. Aros yno am ddau ddiwrnod i gael cysgod or storm
fawr o wynt a mor mawr. Roedd yn bosib cael prynu bwyd yno yn y farchnad a
pysgod i swper. Ddaru y tri ohonym ffeindio tafarn fach gyfeillgar ar lan y mor
lle roeddym yn gallu cadw un lygaid ar Catryn ar lygaid arall ar y pobol
diddorol roedd yn cerdded i fewn drwy y drws. Roedd wifi yno cwrw, a sgwrs da i
gael gyda pobol yr ardal. Rhaid i mi ddweud ddaru ni wneud dipyn o ffrindiau y
noson gyntaf pan roeddym i gyd yn canu, dipyn o noson lawen!
Roedd hi yn siwrnau rolli polli neithiwr yn hwylio lawr glan
Labrador.
Cawsom gawl pysgod neithiwr i ginio a bore ma uwd am chwech o’gloch.
Sandwich a winkles am hanner dydd a pnawn ma cawsom grempog, mel a
paned o de.
Mae y gwynt ar tonnau wedi bod ar ein trwyn heddiw yn croesi dros y Strait
of Belle Isle ac me hi braidd yn wyllt. Ddaru ni gyrraedd glan Cape Bauld
yn Newfoundland ryw awr yn ol ond mae y tywydd mor ddrwg rydym am chwilio am le
i gael cysgod ir gwynt fynd lawr.
Rydym ryw gant a hanner o filltiroedd o Lewisport a disgwyl cyrraedd yno
yfory ond mae y gwynt yn mynd i gryfhau heno ac yfory ac mae yn bosib y byddwn
yn aros yma am ddiwrnod arall!Mae y tri ohonym mewn ysbryd da on yn edrych
ymlaen i gyrraedd adref ar ol bod yn hwylio am chwech wythnos.
Mi adael ichi i gyd wybod eto sut yr ydym yn gwneud hefo y
tywydd yma.
Cofion cynnes atoch , Hywel. |