CATRYN wedi cyraedd amser allweddol

CATRYN
David Rice
Tue 19 Aug 2014 18:04
Maen amlwg nawr mae gennym wyrach ddeg diwrnod ar ol yn yr Arctic cyn
y posibilrwydd o gael ein rhewi i fewn yma am y gaeaf. Rwyf fi ddim eisiaun
gwneud hynny ond rwyf eisiau gwneud yn siwr ein bod yn cymeryd pob cyfle i drio
mynd drywodd y flwyddyn yma cyn inni ddychwelyd ir Ynys las a Chymru.
Mae pedwar cychod hwylio wedi gwneud y pendyrfyniad i droi yn ol yn yr
wythnos diwethaf.Y trwbwl yw y rhew! Nid yw yn meddalu digon ar y funud i
ni hwylio ffor y Pasiffic. Nid oes un llong wedi mynd trwy y flwyddyn yma,
dim un llong dori rhew!
Rydym ar y funud yn 74.40 degrees Gogledd ac ni fyddwn yn mynd yn
uwch na hyn ir gogledd. Rydym mewn lle da iawn os bydd rhywbeth yn agor ir de.
Os bydd ffor yn agored maen debyg y byddwn yn hwylio lawr i Prince Regent Inlet
a trwy y Bellot Strait ac wedyn i lawr Franklin Srait sydd ar y funud wedi rhewi
gyda 9/10 o rhew.
Mae fy nghriw I gyd mewn ysbrydion da ac mae gennym ddigon o danwydd
a bwyd i hwylio i Alaska ac mae Catryn yn gwch cryf ac yn gwneud yn dda iawn
hefor siwrnau hwylio
Rydym wedi cyrraed yr amser allweddol yn ein ymgais i hwylio y Ffor ir
Pasiffic yr haf yma.Mi fydd yr ateb yn y deg diwrond
nesaf. |