Hwylio ymlaen I Cambridge Bay! - gan Hywel

CATRYN
David Rice
Fri 22 Aug 2014 17:50
Annwyl Gymru,
Ar y funud rydym yn croesi Lancaster Sound o Rigby Inlet ac rydym yn 74.13
Gogledd a 89.53 Gorllewin. Maer gwynt yn chwythu or gogledd 12 knots ac rydym yn
hwylio yn reit dda ir de ac yn gwneud trafeilio chwech knots yr awr. Rydym ar
ein ffordd i Harbwr Leopold wedi cael ei enw ar ol Leopold MClintock .Mae ynys
ir de or harbwr a llawer iawn o adar arno ac mi fyddwn yn mynd heibio hi mewn
ryw dair awr. Rydym yn disgwyl fydd dim rhew o gwympas yr ynys ac fydd posib
gweld adar newydd ar y trip. Bore ma dim ond Northern Fulmars a Thick Billed
Murres sydd o gwympas (maen ddrwg gennyf fy mod heb ddod ar llyfr adar yn
Gymraeg ond nid oedd lle yn fy mag).
Mae pawb ar y cwch yn gwneud yn dda iawn ar bwyd yn flasus bob nos, rydym
yn cymeryd rhan bob pump diwrnod i wneud y bwyd.
Bore ddoe ddaru ni gyd ddeffro yn Erebus a Terror Bay ac roedd pobeth yn
wyn hefo eira ac yn oer! Roedd gwynt cryf or gorllewin ac ddaru ni adael yno tua
hanner awr wedi tri i symud i lawr i Rigby sydd ar ochor y de Devon Island uwch
ben Prince Regent Sound.
Rydym yn symud ymlaen lawr i Prince Regent Sound a disgwyl fydd y rhew yn
meddalu.Mae y tug o Norway a barge sydd yn mynd i nol y cwch Maud
(cwch Rasmussen ddaru cael ei dal yn y rhew tua 1926 yn Porth Leopold.
Rydym wedi bod mewn cysylltiad ar captain bore ma ac hefyd gyda y cwch Drina o
Awstralia sydd yn trio ffeindio ffordd drwy y rhew ir For y Pasific.
Mae pawb nawr a box plastic gyda ei henw arno ac mae problem lle mae y
biscuits yn mynd wedi cael ei ateb!
Yn y dyddiau nesaf yma rydym yn symud lawr tuag at y Bellot
Strait ac wedyn tua y Franklin Strait.Maen amlwg ar y funud mae y rhew yn
meddalu mwy ar ochor dwyrain King William Island neu ar yr ochor ir
gorllewin.
Diolch yn fawr ichi i gyd am eich diddordeb yn en taith i Nome yn
Alaska!
Cofion cynnes ichi gyd, Hywel. |